Gweithio yn y gymuned
CYM |
ENG
Mae tîm Wylfa wedi datblygu Cynllun Datblygiad Economaidd-Gymdeithasol blynyddol penodol. Mae’r cynllun yn sicrhau bod gweithgareddau cefnogi rhagweithiol yn cael eu trefnu. Mae’r gweithgareddau hyn o fudd i fywyd cymdeithasol neu economaidd y gymuned leol.
Mae’r gweithgareddau’n cael eu targedu’n benodol er mwyn helpu i hybu trefniadau gweithio a gweithgareddau’r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear sy’n cael effaith ar y gymuned yn y tymor hir.
Mae’r prif faterion a fydd yn cael eu hadolygu’n barhaus drwy Gynllun Datblygiad Economaidd-Gymdeithasol Wylfa yn cynnwys:
- Beth yw’r ffordd orau o annog a chefnogi gweithgareddau sy’n cynnig manteision Economaidd-Gymdeithasol i’r gymuned leol.
- Sut y dylid trefnu’r ffordd y byddwn yn cyllido gweithgareddau Economaidd-Gymdeithasol er mwyn cefnogi mentrau cymunedol a chyfleoedd strategol hirdymor.
Y dull gweithredu a gynigir gennym:
- Bwriadwn weithredu fel canolbwynt i randdeiliaid, gan gynnig arweiniad lle bo’n briodol, a gweithredu fel hwylusydd, catalydd a phartner pan fydd eraill mewn sefyllfa well i arwain/gweithredu
- Bydd gennym ffocws strategol yn bennaf er mwyn sicrhau dulliau gweithredu cydlynol a chyson ym mhob safle yn genedlaethol ac yn rhanbarthol.
- Rydym wedi ymrwymo i wrando ar farn rhanddeiliaid, ac i ystyried yr hyn a ddywedir ganddynt ynglŷn â’n Cynllun Datblygiad Economaidd-Gymdeithasol.
Rydym yn bwriadu parhau i gysylltu â’n rhanddeiliaid er mwyn diffinio’r fframwaith Economaidd-Gymdeithasol tymor hir.
