Hanes y safle

WelshCYM | EnglishENG

Dechreuodd gwaith adeiladu gorsaf bŵer Wylfa, gan gynnwys yr adweithyddion, sef y mwyaf o’u math, yn 1963, a dechreuodd yr orsaf gyflenwi trydan i’r grid yn 1971. Dewiswyd y lleoliad am ei fod yn hygyrch ar gyfer adeiladu, yn sefydlog yn ddaearyddol ac yn cynnwys ffynhonnell eang, ddiderfyn o ddŵr oeri o Fôr Iwerddon.

Wylfa oedd yr ail gynhwysydd gwasgedd a adeiladwyd o goncrit wedi’i drin, a’r safle Magnox olaf i gael ei adeiladu gyda chapisiti gwreiddiol o 1140MWso. Y dyluniad hwn oedd rhagflaenydd adweithyddion y genhedlaeth nesaf, sef yr Adweithyddion Uwch a gaiff eu Hoeri â Nwy (AGR). Yn ystod 1992/93, curodd Wylfa ei record ei hun am y drydedd flwyddyn yn olynol gan gynhyrchu dros 7.7 miliwn MWawr o drydan. Gyda ffactor llwyth o 98.2%, nodwyd mai Adweithydd 1 Wylfa yw’r gorau yn y Byd o ran ei berfformiad (World Nuclear Performance, Ion 1993, cyhoeddwyd gan McGraw-Hill). Yn 2002/03 cynhyrchodd Wylfa 7.3 miliwn MWawr, y bedwaredd lefel gynhyrchu uchaf yn ystod ei oes. Ers i’r orsaf gael ei chomisiynu, mae Wylfa wedi cynhyrchu dros 225,000 miliwn o unedau (KWawr) o drydan.

Perchnogaeth yr orsaf

1965-1989: Y Bwrdd Canolog Cynhyrchu Trydan (CEGB)

1989-1994: Nuclear Electric plc (ar ôl preifateiddio’r CEGB yn rhannol)

1994-1998: Magnox Electric plc (ar ôl trosglwyddo'r gorsafoedd pŵer niwclear AGR a PWR i British Energy plc)

1998-2004: British Nuclear Fuels plc

2004 hyd heddiw: Yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (ar ôl ailstrwythuro diwydiant niwclear y DU a throsglwyddo holl etifeddiaeth niwclear y DU i’r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear)
 

Bookmark and Share

© Magnox North Ltd