Gorsaf Bŵer Hydro-electrig Maentwrog
CYM |
ENG
Cafodd y tir lle saif Gorsaf Bŵer Hydro-electrig Maentwrog, y llyn a’r argae sy’n angenrheidiol i gyflenwi dŵr iddi, eu prynu yn y 1920au gan Gwmni Pŵer Gogledd Cymru. Dechreuodd y gwaith adeiladu yn 1925 ac agorwyd yr orsaf ar 15 Hydref 1928. Pan agorwyd gorsaf Maentwrog i ddechrau, roedd yr hyn a gynhyrchai’n llawer mwy na’r galw mwyaf am drydan yng Ngogledd Cymru.
Allbwn o 18 megawat o dri thyrbin oedd ganddi i ddechrau ond ychwanegwyd pedwerydd tyrbin yn 1934, gan gynyddu ei hallbwn i 24 megawat. Cafodd ei hadnewyddu yn 1991 gan gynyddu’r gallu cynhyrchu i 30 megawat, ac ar hyn o bryd fe’i gweithredir gan Magnox North Ltd.
Ffurfiwyd llyn Trawsfynydd drwy adeiladu pedwar argae. Y prif argae, a adeiladwyd ar draws Afon Prysor (ym mhen gogleddol y llyn), oedd yr argae bwa mawr cyntaf erioed i gael ei adeiladu ym Mhrydain. Roedd y llyn yn gorchuddio ardal dwy filltir sgwâr ac mae ynddo dros 33 miliwn metr ciwbig o ddŵr.
Yn 1988 dechreuwyd adeiladu argae newydd oddeutu 75 metr i lawr yr afon o’r gwreiddiol. Cymerodd y gwaith o gloddio’r sylfeini ychydig dros flwyddyn cyn i 54,500 metr ciwbig o goncrit gael ei dywallt i ffurfio argae newydd 219m o hyd a 38.8m o uchder ar siâp ‘S’.
Saif argae newydd Maentwrog ym mhen uchaf Ceunant Llennyrch. Mae’r ardal yn rhan o Barc Cenedlaethol Eryri ac fe’i dynodwyd yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd y nifer fawr o rywogaethau prin o’r fflora bryoffytau’r Iwerydd sydd i’w gweld yn y ceunant.
Yn ystod y gwaith adeiladu yn ystod diwedd yr 80au gwnaed pob ymdrech i leihau’r effaith ar yr amgylchedd arbennig hwn. Heddiw, addewid yr orsaf o hyd yw cynhyrchu ynni’n ddiogel, yn gystadleuol a gyda gofal dros yr amgylchedd.
