Strategaeth oes

WelshCYM | EnglishENG

Y strategaeth sy’n cael ei ffafrio ar hyn o bryd ar gyfer dadgomisiynu safle Wylfa, fel holl orsafoedd pŵer niwclear Magnox y DU, yw gohirio’r gwaith o glirio’r safle, fel bod modd clirio’r safle cyfan tua 100 mlynedd ar ôl rhoi’r gorau i gynhyrchu. Mae’n lleihau’r risg i weithwyr, i’r cyhoedd ac i’r amgylchedd; yn lleihau maint y gwastraff; yn syml o safbwynt technegol ac yn gwneud synnwyr o safbwynt ariannol.

Mae Magnox Electric Ltd yn defnyddio’i wybodaeth a’i arbenigedd er mwyn cyflymu cynllun y gwaith dadgomisiynu, nad yw’n gwahardd gostyngiad yn y cyfnod o 100 mlynedd cyn clirio’r safle cyfan.

Bwriedir i Wylfa barhau i gynhyrchu trydan tan 2010, a bydd y gwaith gwagio tanwydd yn dechrau yn yr un flwyddyn. Dyma fydd cychwyn rhaglen dadgomisiynu’r orsaf bŵer.

Y cynllun dadgomisiynu yn Wylfa

2005-2010 Cynhyrchu Trydan

  • Gweithredu’r orsaf bŵer mewn modd diogel sydd hefyd yn ystyried yr amgylchedd, gan sicrhau y caiff cymaint â phosibl o drydan ac incwm ei gynhyrchu
  • Parhau i gael tanwydd gan safle cynhyrchu tanwydd Springfields
  • Anfon fflasgiau tanwydd i Sellafield yn brydlon ar gyfer ailbrosesu tanwydd arbelydredig
  • Cwblhau gweithgareddau cynnal a chadw tra bydd yr orsaf yn gweithredu
  • Rheoli gwastraff lefel isel a'i anfon i'r storfa gwastraff lefel isel genedlaethol yng Ngorllewin Cumbria
  • Trin a storio gwastraff lefel ganolraddol ar y safle
  • Cael gwared â gwastraff nad yw'n beryglus yn unol â'n polisi ‘lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu’
  • Lleihau peryglon yn gynnar drwy gael gwared ar asbestos, olew gwastraff lefel isel iawn a chyfarpar gweithredol nad yw’n cael ei ddefnyddio
  • Gwaith paratoi i sicrhau trosglwyddiad didrafferth i’r cam dadgomisiynu
  • Llunio’r Achos Ar Ôl Gorffen Gweithredu a’r Achos Diogelwch wrth Wagio Tanwydd
  • Addasu’r cyfarpar trin tanwydd a gwella llwybr y tanwydd er mwyn hwyluso proses gwagio tanwydd sy’n ddiogel, yn gyflym ac yn ddibynadwy

2010-2012 Gwagio Tanwydd

  • Tynnu mwy na 49,248 o elfennau tanwydd arbelydredig o’r adweithyddion a’r celloedd storio sych a’u hanfon i Sellafield i gael eu hailbrosesu
  • Cynnal a chadw’r cyfarpar a’r systemau i gefnogi’r broses gwagio tanwydd
  • Ynysu ac arwahanu cyfarpar a systemau nad ydynt yn cael eu defnyddio, pan fydd hynny’n angenrheidiol
  • Adfer, prosesu a phacio gwastraff

2012-2025 Paratoadau Gofal a Chynnal a Chadw

  • Tynnu’r holl gyfarpar ac offer sy’n gysylltiedig â’r peiriant tanwydd a chynnal a chadw’r cap peil
  • Datgymalu, dadlygru a dymchwel celloedd storio sych 4 a 5
  • Selio celloedd storio sych 1, 2 a 3 a’u cadw o fewn y storfa ddiogel. Dadlygru a dymchwel yr holl gyfleusterau gweithredol ac anweithredol, a datgymalu cyfarpar ynddynt
  • Datgymalu cyfarpar, cael gwared ar berygl asbestos a dymchwel adeilad y tyrbin
  • Dadlygru’r bibell arllwyso elifion ac adeiladu pibell arllwyso newydd
  • Tynnu holl gyfarpar ac offer y systemau oeri dŵr
  • Dadlygru’r adweithyddion a’r bloc gwasanaethau, datgymalu cyfarpar ynddynt, gostwng eu huchder a’u rhoi mewn cyflwr goddefol a diogel
  • Adeiladu cyfleuster rheoli gwastraff lefel isel newydd
  • Adeiladu cyfarpar symudol newydd ar gyfer trin elifion
  • Sefydlu system drydanol a system Rheolaeth a system Offeryniaeth newydd

2025-2116 Gofal a Chynnal a Chadw

  • Monitro cyflwr a diogelwch yr adweithyddion ar y safle wrth i’r ymbelydredd y tu mewn i’r adweithyddion leihau’n naturiol
  • Gwaith monitro radiolegol ac amgylcheddol
  • Cynnal archwiliadau rheolaidd, gan gynnwys arolygon strwythurol, o amodau’r safle a’r adeiladau, a gwneud gwaith cynnal a chadw pan fydd angen, gan gynnwys gosod gorchudd newydd ar yr adweithyddion
  • Rheoli ac adfer y tir
  • Rheoli a gwaredu gwastraff lefel isel
  • Dadgomisiynu’r orsaf bŵer trydan dŵr gyfagos, Maentwrog – a fwriedir ar gyfer 2086

2116-2125 Clirio’r Safle’n Derfynol

  • Gosod cyfleusterau datgymalu adweithyddion
  • Datgymalu a dymchwel pob adeilad sydd ar ôl ar y safle, gan gynnwys yr adweithydd a’r bloc gwasanaethau
  • Adeiladu, defnyddio, ac yna dymchwel cyfleuster rheoli gwastraff a chyfleusterau datgymalu adweithydd
  • Adfer a thirlunio’r tir
  • Dad-drwyddedu’r safle a’i wneud yn barod i gael ei ailddefnyddio

Bookmark and Share

© Magnox North Ltd