Y Ganolfan Wybodaeth

WelshCYM | EnglishENG

Mae Canolfan Wybodaeth Wylfa (yr unig Ganolfan Gorsaf Bwer sy'n dal ar agor i'r cyhoedd) dafliad carreg o'r safle niwclear.

 

Mae Canolfan Wybodaeth Wylfa (yr unig Ganolfan Gorsaf Bŵer sy’n dal ar agor i'r cyhoedd) dafliad carreg o'r safle niwclear.
 
Mae gan y ganolfan, sy’n croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, arddangosfeydd rhyngweithiol a chlyweledol ynghylch pŵer niwclear a sut y mae’n berthnasol heddiw.Mae hefyd yn cynnwys siop anrhegion, caffi, man chwarae dan do i blant, drysfa a llwybr natur.
 
 
Addysg
 
Mae gan y ganolfan raglen helaeth gydag ysgolion sy’n cynnwys agweddau’r orsaf bŵer ynghyd â'r llwybr natur.Mae rhai o'r prosiectau a ddatblygir gydag ysgolion yn cynnwys Trydan, Cylchedau, Grymoedd a Mudiant, Golau a Sain, yr Amgylchedd, Adar, Coed a Phridd, Iechyd a Diogelwch, Planhigion.Gall ddarparu ar gyfer hyd at 35 o ddisgyblion.
 
 
Os hoffech gael mwy o wybodaeth, gallwch lwytho’r daflen Gweithdai Addysgol.
 
 
Oriau Agor Tachwedd – Mawrth
 
Dydd Llun - Dydd Gwener 10:00 – 16:00
Sylwer – mae'r caffi ar gau bob dydd Llun
 
Oriau Agor Mawrth – Hydref
 
Dydd Llun - Dydd Sul 10:00 – 16:00
Sylwer – mae'r caffi ar gau bob dydd Llun
 
Cyfnod y Nadolig
 
Bydd Ogof Santa ar agor o fis Tachwedd tan fis Rhagfyr, a gallai hyn effeithio ar wasanaethau arferol y Ganolfan Wybodaeth.  Os byddwch yn ymweld â’r Ganolfan yn ystod y cyfnod hwn, dylech gysylltu â'r Ganolfan.
 
Manylion Cyswllt
 
Ffôn: 01407 711400
 
E-bost:wylfa.info.centre.helpdesk@magnoxnorthsites.com
 

Wylfa Visitors Centre

Bookmark and Share

© Magnox North Ltd