Ffeithiau ac ystadegau

WelshCYM | EnglishENG

Wylfa yw’r adweithydd math Magnox olaf a sefydlwyd yn y DU, ac mae'r safle wedi bod yn cynhyrchu trydan bob dydd ers iddo agor yn 1971. Ar ddiwrnod arferol, mae'n cyflenwi 23 miliwn kWh o drydan - digon i ddiwallu anghenion dwy ddinas maint Lerpwl a Manceinion gyda’i gilydd. Mae’r safle 20.79 hectar hwn wedi’i leoli ar arfordir gogleddol Ynys Môn, sy’n sicrhau bod gan yr orsaf fynediad at yr holl ddŵr oeri y mae arni ei angen.

Gwybodaeth Sylfaenol
Lleoliad: Ynys Môn
Trefi/dinasoedd cyfagos: Cemaes (2km) Caergybi (15km)
Arwynebedd y safle: 20.79 hectar
Nifer y gweithwyr ar hyn o bryd: 650
Dyddiadau allweddol
Dechrau adeiladu: 1963
Gorffen adeiladu: 1971

Dechrau gweithredu:

1971

Gorffen gweithredu:

2010

Dechrau gwagio tanwydd o’r safle:

2010

Gorffen gwagio tanwydd o’r safle:

2012
Dechrau paratoadau gofal a chynnal a chadw: 2012
Gorffen paratoadau gofal a chynnal a chadw: 2025
Disgrifiad o’r cyfarpar

Math o adweithyddion:

Magnox
Nifer yr adweithyddion: 2
Nifer y sianelau tanwydd i bob adweithydd: 6,156
Nifer yr elfennau tanwydd ar gyfer pob sianel: 8

Nifer y rhodenni rheoli:

185
Deunydd tanwydd: Wraniwm naturiol
Oerydd yr adweithyddion: Carbon deuocsid

Nifer y tyrbogeneraduron:

4

Cynnyrch trydanol – dyluniad (net):

anfonir 1180MW allan
Cynnyrch trydanol – cyfredol (net): anfonir 980MW allan

Cynnyrch oes yr orsaf:

Dros 69 TWh

Gweithredwyr blaenorol:

Y Bwrdd Canolog Cynhyrchu Trydan, Nuclear Electric, Magnox Electric

Gorsaf ynni niwclear gyfagos:

Dim
Ffeithiau unigryw

Ar ddiwrnod arferol, mae Wylfa yn cyflenwi 23 miliwn kWh o drydan - digon i ddiwallu anghenion dwy ddinas maint Lerpwl neu Fanceinion. Mae Wylfa yn gyfrifol am reoli a gweithredu’r orsaf bŵer trydan dŵr ym Maentwrog sydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri gerllaw.

 

Bookmark and Share

© Magnox North Ltd