Gardd Cestyll
CYM |
ENG
Mae Gardd Cestyll ar yr arfodir wrth ymyl Wylfa, yn edrych dros Porth y Felin rhwng Cemaes a Chemlyn.
Mae'r ardd wedi bod yn berchen ac o dan oralaeth yr orsaf bwer ers 1983. Y mae Afon Cafnan yn rhedeg trwy'i chanol ac fe'i rhennir fan ffrydiau a phontydd. Creigfa ydyw yn bennaf, yn cynnwys amrywiaeth mawr o blanhigion anghyffredin.
Yn wreiddiol, yr oedd yr ardd yn perthyn i Cestyll House a brynwyd yn 1918 gan yr Anrhydeddus William Walter Vivian o Glyn Bangor yn anrheg i'w nith, yr Anrhydyddes Violet Vivian, merch yr Arglwydd Vivian o Bodmin, Cernyw.
Pwy oedd Violet Vivian?
Roedd yr anrhydyddes Violet Vivian yn Forwyn Llys i'r Frenhines Alexandra o 1901 hyd at 1925. Fe ymddengys ei bod yn gyfeilles agos i'r Dywysoges Victoria ac o ganlyniad i'r cysylltiad hwn, bu llawer ymweliad Brenhinol a Chestyll.
Y Dywysoges Victoria a ddyluniodd gornel dde orllewinol yr ardd, sy;n cynnwys y goeden rhododendron gwyn ysblennydd.
Cychwynodd Violet Vivian y traddodiad o agor Cestyll i ymwelwyr ddwywaith y flwyddyn, a pharhawyd i wneud hyn hyd 1961 pan etifeddiwyd yr ardd gan Arglwyddes Astor o Hever.
Llunio Hanes yr Ardd
Ar y cychwyn, defnyddiai Violet Vivian Cestyll fel Ty haf, ond cymerodd diddoedeb mawr yn yr ardd o'r dechrau.
Yn1922, dechreuodd ddatblygu'r llecyn dymunol lle llifai Afon Cafnan i lawr tua'r mor. Yn llawer diweddarach, crewyd planhigfa o goed pinwydd er mwyn rhoi cysgod i'r ardd rhag y gwynt a cafodd pridd ei gario i'r greigfa ar ochr orllewinol yr ardd lle plennid hyd at 3,000 o blanhigion unflwydd yno bob tymor.
Ym mis Hydref 1991, yr oedd Cestyll House wedi dadfeilio y tu hwnt i adferiad, a cafodd ei ddymchwel. Ond gwelir hyd heddiw ganlyniadau'r garddio tirluniol, a grewyd yn bennaf gan Violet Vivian ei hun.
Parhau i Gadw'r Traddodiad
Ail ddechreuwyd traddodiad Violet Vivian o agor yr ardd i'r cyhoedd gan yr Wylfa yn 1985. Mae'n bwriadu parhau y traddodiad wrth agor yr ardd ym mis Mai pan fydd mwyaf lliwgar.
Mae rhiwogaethau prin a diddorol sydd wedi eu cyflwyno i'r ardd yn y blynyddoedd diweddar wedi ffynu yn y micro-hinsawdd rhyfeddol a geir yng Nghestyll, felly yn helpu i gynnal y diddordeb garddwriaethol sydd yn yr ardd dirluniol unigryw hon.
Yr Hen Felin Ddwr
Mae Cestyll hefyd yn gartref i hen felin ddwr sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae Felin Cafnan yn anarfeol oherwydd mae dwr i ffrwd yn llifo dros ben yr olwyn pan fydd yn gweithio, chaiff ei ddargyfeirio o dan yr olwyn pan na fydd ei angen.
Mae'r adeilad a'r peiriannau yn dyddio o tua 1840 ond ceir tystiolaeth fod melin ddwr ar y safle hwn efallai ers yr drydedd ganrif ar ddeg. Nid oes gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gynlluniau i adnewyddu'r felin na'i hagor i ymwelwyr.
I ymweld a'r ardd, cysylltwch a'r Ganolfan Wybodaeth ar 01407 711400