Gweithio yn y gymuned

WelshCYM | EnglishENG

Mae gan dîm Trawsfynydd Gynllun Datblygiad Cymdeithasol-Economaidd blynyddol. Mae’n gynllun penodol, arbennig o dda, sy’n sicrhau bod gweithgareddau cefnogi rhagweithiol yn cael eu trefnu. Mae’r gweithgareddau hyn o fudd i fywyd cymdeithasol neu economaidd y gymuned leol.

Mae’r gweithgareddau’n cael eu targedu’n benodol er mwyn helpu i hybu trefniadau gweithio a gweithgareddau’r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear sy’n cael effaith ar y gymuned yn yr hirdymor.

Mae’r prif faterion a fydd yn cael eu hadolygu’n barhaus drwy Gynllun Datblygiad Cymdeithasol-Economaidd Trawsfynydd yn cynnwys:

  • Beth yw’r ffordd orau o annog a chefnogi gweithgareddau sy’n cynnig manteision Cymdeithasol-Economaidd i’r gymuned leol.
     
  • Sut y dylid trefnu’r ffordd y byddwn yn cyllido gweithgareddau Cymdeithasol-Economaidd er mwyn cefnogi mentrau cymunedol a chyfleoedd strategol hirdymor.

Y dull gweithredu a gynigir gennym:

  • Bwriadwn weithredu fel canolbwynt i randdeiliaid, gan gynnig arweiniad lle bo’n briodol, a gweithredu fel hwylusydd, catalydd a phartner lle mae eraill mewn sefyllfa well i arwain/gweithredu.
     
  • Bydd gennym ffocws strategol gan mwyaf er mwyn sicrhau dulliau gweithredu cydlynol a chyson ym mhob safle yn genedlaethol ac yn rhanbarthol.
     
  • Credwn mai’r ffordd orau o ddatblygu a chyflwyno cynlluniau gweithredu cymunedol, lleol yw drwy ymgynghori â rhanddeiliaid yn y gymuned leol ac â’r gweithlu.
     
  • Rydym wedi ymrwymo i wrando ar farn rhanddeiliaid, ac i ystyried yr hyn a ddywedir ganddynt ynglŷn â’n Cynllun Datblygiad Cymdeithasol-Economaidd.

 

Bookmark and Share

© Magnox North Ltd