Hanes y safle

WelshCYM | EnglishENG

Adeiladwyd gorsaf ynni Trawsfynydd yn niwedd y 1950au/dechrau’r 1960au, a dechreuodd gynhyrchu trydan yn 1965. Bu’n cynhyrchu trydan am 26 mlynedd cyn cyrraedd diwedd ei hoes weithredol yn 1991. Gorsaf Trawsfynydd oedd yr orsaf ynni niwclear Magnox sifil fewndirol gyntaf, ac roedd yn tynnu ei dŵr oeri, ar raddfa o 35 miliwn o alwyni yr awr, o lyn Trawsfynydd, llyn a grëwyd yn wreiddiol yn y 1920au fel rhan o brosiect trydan dŵr ym Maentwrog, ac sy’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw.

Gwaith ar y safle

1965-1989: Y Bwrdd Canolog Cynhyrchu Trydan (CEGB)

1989-1994: Nuclear Electric plc (ar ôl preifateiddio’r CEGB yn rhannol)

1994-1998: Magnox Electric plc (ar ôl trosglwyddo’r gorsafoedd pŵer niwclear AGR a PWR i British Energy plc)

1998-2004: British Nuclear Fuels plc

2004 hyd heddiw: Yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (ar ôl ailstrwythuro diwydiant niwclear y DU a throsglwyddo holl etifeddiaeth niwclear y DU i’r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear)

Dyddiadau Arwyddocaol

1959 - 1965      Dechrau gwagu Prif Gell Llaid                    
 
1965 -1991       Cynhyrchu     
 
1968                   Agoriad Swyddogol gan James Griffiths, Ysgrifennydd
 
1991                   Diwedd Cynhyrcu
       
1993                   Cau'r safle yn swyddogol
 
1993 - 1995       Tynnu Tanwydd
 
1995                    Dadgomisiynu a thynnu offer
 
1998                    Gwagio'r dwr o'r pyllau
 
2003                    Chwalu'r neuadd tyrbein
 
2005                    Gwagio cell CEA (Gogledd), Dechrau Adennill MRT (De)
 
2005                    Tynnu bont 'Bailey' a'r pontwn
 
2005                    Dadgomisiynu a dymchwel y 'Pumphouse' dwr oer
 
2005                    Dechrau adeiladu'r SWG   
 
2005                    Tynnu darnau bwyler R1 (Gogledd)
 
2006                    Dechrau brasnaddu'r pyllau
                             Cwblhau tynnu bwyler R1 (Gogledd)
                             Ennill 3ydd medal aur RoSPA
 
2006                    Gwagu claddgell B4
 
2006                    Dechrau gwagu Prif Gell Llaid
 
2006                    Ymgynghoriad Cyflwr Terfynol y Safle
 
2006                    Cwblhau adennill swmp Resin o Cell Resin 1                                       
 
2006                     Adroddiad Cyflwr Terfynol y Safle gyflwyno i ADN
 
2007                     Gwagio Claddgell Gwastraff Actif B3
 
2007                     Cwblhau tynnu Pibelli Nwy Poeth
 
2007                     Tynnu darnau bwyler R2 (De)
 
2007                     Cwblhau tynnu bwyleri yn R2 (De)
 
2007                     Cwblhau y Storfa Gwastraff Lefel Canolradd
 
2008                     Dechrau'r gwaith ar y Toeau Capio yn y Neuadd Wefru A2
 
2008                     Cwblhau y gwaith o adennill y Ffrwd Wastraff Ganolradd, y cyntaf yn y DU, set CEA
                                                                                                           
2009                     Cwblhau prosiect Symud rhai o Gydrannau'r Prif Gylched

 

Bookmark and Share

© Magnox North Ltd