Strategaeth oes

WelshCYM | EnglishENG

Y strategaeth sy’n cael ei ffafrio ar hyn o bryd ar gyfer dadgomisiynu safle Trawsfynydd, fel holl orsafoedd pŵer niwclear Magnox y DU, yw gohirio’r gwaith o glirio’r safle, fel bod modd clirio’r safle cyfan tua 100 mlynedd ar ôl rhoi’r gorau i gynhyrchu. Mae’n lleihau’r risg i weithwyr, y cyhoedd a’r amgylchedd; yn lleihau maint y gwastraff; yn syml o safbwynt technegol ac yn gwneud synnwyr o safbwynt ariannol.

Mae Magnox North yn defnyddio’i wybodaeth a’i arbenigedd er mwyn cyflymu cynllun y gwaith dadgomisiynu, nad yw’n gwahardd gostyngiad yn y cyfnod o 100 mlynedd cyn clirio’r safle cyfan.

Mae rhaglen ddadgomisiynu Trawsfynydd yn ei phedwaredd blynedd ar ddeg erbyn hyn, gyda’r gwaith o gludo’r tanwydd o’r safle wedi’i gwblhau’n llwyddiannus a cherrig milltir pwysig mewn prosiectau wedi cael eu cyrraedd, gan gynnwys dymchwel a thirlunio adeilad y tyrbin ac adeilad y pwmp dŵr oeri.

Y cynllun dadgomisiynu yn Nhrawsfynydd

1995 - 2015: Paratoi ar gyfer Gofal a Chynnal a Chadw

  • Adeiladu storfa wastraff er mwyn trin a phecynnu Gwastraff Lefel Ganolraddol sydd wedi’i gadw mewn daeargelloedd storio ar y safle yn ystod y gwaith cynhyrchu – i’w gwblhau yn 2007
  • Dymchwel cyfadeiladau’r pyllau ar ôl adfer a phrosesu’r gwastraff etifeddol gweithredol er mwyn ei storio’n ddiogel ac yn sefydlog ar y safle – y gwaith dymchwel i fod i ddigwydd yn 2011
  • Cwblhau’r holl waith rheoli gwastraff, datgymalu a dymchwel, gan glirio’r rhan fwyaf o’r offer a’r adeiladau ymbelydrol ac anymbelydrol
  • Adeiladu storfeydd diogel – gostwng uchder adeiladau’r adweithyddion er mwyn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd a sicrhau eu bod mewn cyflwr goddefol a diogel

2015 - 2088: Gofal a Chynnal a Chadw

  • Monitro cyflwr a diogelwch adeiladau’r adweithyddion ar y safle wrth i’r ymbelydredd y tu mewn i’r adweithyddion leihau’n naturiol
  • Gwaith monitro radiolegol ac amgylcheddol
  • Archwilio cyflwr y safle a’r gwaith cynnal a chadw’n rheolaidd lle bo angen
  • Yr holl becynnau gwastraff sydd wedi’u storio’n cael eu cludo o’r safle er mwyn eu gwaredu a’r storfa wastraff yn cael ei dymchwel pan fydd Storfa Genedlaethol ar gyfer Gwastraff Lefel Ganolraddol ar gael

2088 - 2098: Clirio’r Safle’n Derfynol

  • Datgymalu’r offer a’r cyfleustodau, y cyfleusterau a’r adeiladau sydd ar ôl ar y safle
  • Adfer tir, gan gynnwys gwaith tirweddu a phlannu
  • Dad-drwyddedu’r safle a’i ddychwelyd, yn lân ac yn ddiogel, i’w ddefnyddio yn y dyfodol

Bookmark and Share

© Magnox North Ltd