Ffeithiau ac ystadegau
CYM |
ENG
Mae gorsaf bŵer Trawsfynydd, sydd bellach yn safle dadgomisiynu, yng Ngogledd Cymru. Caewyd yr orsaf Magnox dau adweithydd yn 1991 yn dilyn 26 blynedd o waith llwyddiannus.
Dechreuwyd ar y gwaith dadgomisiynu yn 1993 a chwblhawyd y gwaith o gludo’r tanwydd o’r adweithyddion ymhen 21 mis, bedwar mis ynghynt na’r disgwyl ac am lai o gost na’r disgwyl. Mae gogwydd arbennig i’r strategaeth ddadgomisiynu yn Nhrawsfynydd gan fod yr orsaf wedi’i lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
| Gwybodaeth Sylfaenol | |
| Lleoliad: | Gwynedd |
| Trefi/dinasoedd cyfagos: | Trawsfynydd (3 milltir) Blaenau Ffestiniog (7 milltir) Porthmadog (10 milltir) Bangor (38 milltir) |
| Arwynebedd y safle: | 13 hectar |
| Nifer y gweithwyr ar hyn o bryd: | 211 aelod o staff, tua 72 o weithwyr asiantaeth, tua 350 o gontractwyr |
| Dyddiadau allweddol | |
| Dechrau adeiladu: | 1959 |
| Gorffen adeiladu: | 1965 |
| Dechrau gweithredu: | 1965 |
| Gorffen gweithredu: | 1993 |
| Dechrau cludo tanwydd o’r safle: | 1993 |
| Gorffen cludo tanwydd o’r safle: | 1995 |
| Dechrau paratoadau gofal a chynnal a chadw: | 1993 |
| Gorffen paratoadau gofal a chynnal a chadw: | 2015 |
| Disgrifiad o’r cyfarpar | |
| Math o adweithyddion: | Magnox |
| Nifer yr adweithyddion: | 2 |
| Nifer y sianelau tanwydd i bob adweithydd: | 3,740 |
| Nifer yr elfennau tanwydd ar gyfer pob sianel: | 9 |
| Nifer y rhodenni rheoli: | 110 |
| Deunydd tanwydd: | Wraniwm naturiol |
| Oerydd yr adweithyddion: | Carbon deuocsid |
| Nifer y tyrbogeneraduron: | 4 |
| Cynnyrch trydanol – dyluniad (net): | 500MW |
| Cynnyrch trydanol – cyfredol (net): | 390MW |
| Cynnyrch oes yr orsaf: | 69 TWh |
| Gweithredwyr blaenorol: | Y Bwrdd Canolog Cynhyrchu Trydan, Nuclear Electric, Magnox Electric |
| Gorsaf ynni niwclear gyfagos: | Dim |
| Ffeithiau unigryw | |
| Trawsfynydd yw’r safle niwclear sifil mewndirol cyntaf, a hefyd yr unig safle dadgomisiynu yn y DU, sy’n adfer gwastraff yr un pryd o bob un o’i ffrydiau gwastraff. Mae’r strategaeth ddadgomisiynu ar gyfer Trawsfynydd wedi cael ei dylanwadu gan ei lleoliad ym Mharc Cenedlaethol Eryri. | |