Trawsfynydd
CYM |
ENG
Site address
Safle Trawsfynydd
Blaenau Ffestiniog
Gwynedd LL41 4DT
Ffôn: +44 (0) 1766 543210
Ffacs: +44 (0) 1766 543343
Proffil o’r safle
Mae safle dadgomisiynu Trawsfynydd ar ddarn 15.4 hectar o dir ar lan ogleddol llyn mewndirol yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, yng Ngogledd Cymru. Nid oes tanwydd ar ôl yn yr orsaf dau adweithydd erbyn hyn, ac mae’n cael ei dadgomisiynu. Yn ei hanterth roedd yr orsaf yn cynhyrchu digon o drydan i ddiwallu anghenion dinas o faint Manceinion.
Roedd dwy adweithydd ‘Magnox’ ynghyd ag adeiladau’r pyllau a nifer o adeiladau ategol eraill ar safle Trawsfynydd. Yn dilyn 26 mlynedd o gynhyrchu llwyddiannus datgysylltwyd gorsaf Trawsfynydd am y tro olaf yn 1991 i wneud gwaith atgyweirio ond ystyriwyd bod y gwaith hwn yn aneconomaidd. Dechreuwyd y gwaith o dynnu gweddillion tanwydd ym 1993 ac erbyn 1995, ar ol 21 mis cwblhawyd y gwaith gyda 99.99% o weddillion ymbelydrol wedi eu clirio o’r safle. Gwnaethpwyd hyn yn gynt ac a’r lai o gost na’r disgwyl. Mae Trawsfynydd wedi bod yn datgomisiynu ers 1995 ac ar hyn o bryd mae’r gwaith yn agosau at y cyfnod Gofal a Chynnal a Chadw. Hwn yw’r unig safle Magnox yn y DU sy’n adennill gwastraff o bob un o’i ffrydiau gwastraff, a’r unig safle yn y DU sy’n adennill mathau penodol o wastraff. Mae’r holl weithrediadau adennill yn canolbwyntio ar Wastraff Lefel Isel a Gwastraff Lefel Ganolradd, sef y sgîl-gynhyrchion o gyfnod gweithredol yr orsaf fel a ganlyn: Malurion Rhodenni Tanwydd, Cydrannau Egnioledig Amrywiol, Resinau, Llaid, Gwastraff Actif, Defnyddiau wedi’u brasnaddu o’r Pyllau – nid oes unrhyw Wastraff Lefel Uchel ar y safle. Er mwyn cadw’r gwastraff ar ol ei brosesu a’i bacio, adeiladwyd Storfa Gwastraff Lefel Ganolradd. Cwblhawyd yr adeilad yn 2008 a’i gomisiynwyd yn 2009.
Dechreuodd y rhaglen ddadgomisiynu ar y safle yn 1993, a’r cam cyntaf oedd cludo’r tanwydd o’r safle. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda dan reolaeth Magnox North, y contractwr haen 1 sy’n goruchwylio’r gwaith a wneir o ddydd i ddydd gan Magnox Electric Ltd, y Cwmni Trwydded Safle.
Cipolwg
Lleoliad: Gwynedd
Trefi/dinasoedd cyfagos:Blaenau Ffestiniog (7 milltir), Porthmadog (10 milltir), Bangor (38 milltir)
Arwynebedd y safle:15 hectar
Brasamcan o nifer y gweithwyr ar hyn o bryd: 218 aelod o staff, tua 65 o weithwyr asiantaeth a thua 350 o gontractwyr
Latest site news
Wednesday 24 February 2010
ClearSite - February 2010 edition
The February 2010 edition of ClearSite is now available to download.
.jpg&width=208&watermark=1)